Mae Tŷ’r Ddraig yn gwmni cynhyrchu newydd cyffrous wedi’i leoli yn Wrecsam. Fel rhan o gwmni cynhyrchu byd-eang Banijay, rydyn ni’n falch o’n gwreiddiau lleol yng Ngogledd-ddwyrain Cymru ac yn credu'n angerddol mewn cynhyrchu'r straeon pwysicaf a mwyaf difyr o bob cwr o Gymru a’r DU. O’n cartref yn Wrecsam, rydyn ni’n dod â’r cynnwys ffeithiol, fformatau adloniant ffeithiol a’r rhaglenni dogfen mwyaf difyr i gynulleidfaoedd yn y DU ac yn rhyngwladol.