Meet our team
Tŷ'r Ddraig
Ben Smith
Cyfarwyddwr Creadigol
Mae gan Ben dros 20 mlynedd o brofiad o weithio gyda thalent yn ogystal â datblygu, cynhyrchu a chyflenwi cynnwys i’r holl brif ddarlledwyr. O gyfresi ffeithiol fel Idris Elba: Fight School (BBC) a Bruno vs Tyson (Sky Docs) i fformatau fel How to Build British (C4) Lost and Found in the Lakes (BBC1) yn ogystal â 200 awr o’r brand Bargain Loving Brits in the Sun ar C5. Mae Ben hefyd wedi creu ac arwain cyfresi comedi ac archif fel Legends of Comedy with Lenny Henry (C4) a Last Laugh in Vegas (ITV1).
Paul Wood
Pennaeth Datblygu
Paul yw arweinydd Datblygu Tŷ’r Ddraig a bu’n allweddol wrth sicrhau comisiynau ar draws ein deunydd ffeithiol. Ar gyfer Channel 5 a C4 roedd ei gomisiynau diwedddaraf, gan sicrhau’r comisiwn cyntaf erioed i Freeform Productions ar gyfer Channel 5 gyda Bomb Squad: Trigger Point (WT) a chyfres 15 rhan ar gyfer C4 Lifestyle gyda Jasmine Harman’s Renovation in The Sun. Yn ystod ei gyfnod yn datblygu i gwmnïau rhanbarthol fel True North a Workerbee, mae Paul wedi helpu i sicrhau nifer o gomisiynau ar gyfer darlledwyr daearol a ffrydio.
Ffion Jon
Cynhyrchydd Cyfres
Mae Ffion Jon yn gynhyrchydd ac yn gyfarwyddwraig sydd wedi ennill gwobrau gyda dros 20 mlynedd o brofiad yn cynhyrchu cyfresi hynod o boblogaidd a chofiadwy fel Ysgol Ni: Maesincla ac Ysgol Ni: Y Moelwyn ar gyfer S4C. Mae wedi datblygu fformatau gwreiddiol ar gyfer y BBC fel The Exhibitionists ac mae ganddi brofiad helaeth o ddatblygu mynediad sensitif i fudiadau ac unigolion fel y gyfres S4C/ Hansh GISDA sy’n canolbwyntio ar bobl ifanc bregus sy’n derbyn gofal gan elusen i'r digartref.
Elliot Fox
Ymchwilydd
Fel ymchwilydd, mae Elliot yn gweithio ar yr elfen ddatblygu yn ogystal â’r ochr gynhyrchu – castio, saethu a golygu – arf cudd Tŷ’r Ddraig a Swiss Army Knife dynol! Drwy ymuno â’r tîm fel rhan o Gynllun Hyfforddiant Cynhyrchu Channel 4, maen nhw’n prysur ddatblygu sgiliau newydd ac wedi gallu dysgu llawer o'r profiad ymarferol o weithio ar draws prosiectau Tŷ’r Ddraig. Mae Elliot yn gyffrous i dyfu a datblygu ochr yn ochr â'r cwmni.